San

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Merch San yn Botswana

Grŵp ethnig yn Namibia, De Affrica, Botswana ac Angola yw'r San. Gelwir hwy weithiau yn Pobl y prysglwyni (Afrikaans: Boesman) neu Basarwa. Maent yn rhan o grŵp ethnig y Khoisan, yn perthyn yn agos i'r Khoikhoi.

Mae tua 100,000 ohonynt i gyd, ac maent yn siarad nifer o ieithoedd Khoisan. Hwy yw poblogaeth frodorol wreiddiol anialwch y Kalahari, lle'r oeddynt yn yn draddodiadol yn byw bywyd hela a chasglu.