Romulus a Remus

Oddi ar Wicipedia
Romulus a Remus
Enghraifft o'r canlynoltwins in mythology, grŵp o gymeriadau chwedlonol Edit this on Wikidata
Rhan ofounding of Rome Edit this on Wikidata
Yn cynnwysRemus, Romulus Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Yn ôl y chwedl, sefydlwyr dinas Rhufain a thrwy estyniad yr Ymerodraeth Rufeinig oedd Romulus a Remus. Gefeilliaid oeddynt, meibion Mars a Rhea Silvia, merch chwedlonol Numitor, brenin Alba Longa. Cafodd yr efeilliaid ifainc eu taflu i Afon Tiber gan Amulius, oedd wedi diorseddu Numitor. Cawsant eu golchi i'r lan a'u magu gan fleiddes. Yn ddiweddarach fe'u darganfuwyd gan fugail a'u mabwysiadu ganddo.

Yn nes ymlaen sefydlasant ddinas Rhufain ar y llecyn lle cawsant eu golchi i'r lan. Cododd Romulus y ddinas ar Fryn Palatin. Y dyddiad traddodiadol am ei sefydlu ganddo yn y calendr Rhufeinig oedd 21 Ebrill 753 CC. Romulus oedd brenin cyntaf Rhufain.

Romulus a Remus yn sugno wrth dethi'r fleiddes