Roger Moore

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Roger Moore

Actor Seisnig yw Syr Roger George Moore KBE (ganwyd 14 Hydref 1927). Mae'n adnabyddus am chwarae rhannau dau arwr anturiaethus Prydeinig, Simon Templar yn y gyfres deledu The Saint o 1962 tan 1969, a James Bond mewn saith ffilm wahanol rhwng 1973 a 1985. Ers 1991, bu Moore yn lys-gennad i UNICEF. Ef gafodd y fraint o fod y gwestai olaf i ymddangos ar The Muppet Show pan ddarlledwyd y rhaglen am y tro olaf ym 1981.


Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.