Robin Hwd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cerflun o Robin Hwd yn Nottingham.

Herwr chwedlonol yn llên gwerin Lloegr yw Robin Hwd[1][2] (Saesneg: Robin Hood). Mae'n destun nifer o faledi sy'n dyddio ers y 14eg ganrif. Mae Robin a'i griw, ei "Lanciau Llon",[3] yn dwyn oddi ar y cyfoethog a'r pwerus er budd y tlawd. Mewn nifer o'r straeon, Marian Forwyn[4] yw ei gariad. Yn draddodiadol mae Robin Hwd a'i griw yn gwisgo dillad o liw gwyrdd Lincoln. Cysylltir y chwedl yn bennaf ag ardal Swydd Nottingham a Swydd Lincoln, yn enwedig Coedwig Sherwood, er roedd baledi cynnar wedi eu lleoli yn ne Swydd Efrog.[5] Mae dyddiadau honedig y straeon yn amrywio o deyrnasiad Rhisiart I (1189–99) i oes Edward II (1307–27).[6]

Ceir sôn am Robin mewn nifer o ffynonellau ar draws Prydain, gan gynnwys The Vision of Piers Plowman (1377) gan William Langland, The Orygynale Cronykil of Scotland gan Andrew Wyntoun (tua 1420),[6] a chasgliad o ganeuon Cymraeg o'r 15fed ganrif (llsgr. Peniarth 53).[2] Cyhoeddodd Wynkyn de Worde y casgliad cyntaf o faledi amdano tua 1489. Mae'n bosib yr oedd y chwedl yn seiliedig ar herwr go iawn o'r un enw. Yn ôl tybiaeth arall roedd y Robin Hwd go iawn yn Robert Fitzooth, Iarll Huntingdon.[6] Roedd Robin yn amddiffyn y tlawd ac yn twyllo a lladd y cyfoethog a swyddogion llwgr a digydwybod yr eglwys a'r llywodraeth. Mae'r elfen hon o'i chwedl yn adlewyrchu'r anfodlonrwydd ymysg y bobl gyffredin a arweiniodd at Wrthryfel y Werin ym 1381.[7]

Gweler hefyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 1179 [Robin: Robin Hood].
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Singman, Jeffrey L. (1998). Robin Hood: The Shaping of the Legend. Adalwyd ar 8 Rhagfyr 2013.
  3. Geiriadur yr Academi, t. 882 [merry: Robin Hood and his merry men].
  4. Geiriadur yr Academi, t. 853 [maid: Maid Marian].
  5. (Saesneg) Robin Hood. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 8 Rhagfyr 2013.
  6. 6.0 6.1 6.2 Rockwood, Camilla (gol.). Brewer's Dictionary of Phrase and Fable, 18fed argraffiad (Caeredin, Chambers, 2009), t. 1129.
  7. Crystal, David (gol.). The Penguin Encyclopedia' (Llundain, Penguin, 2004), t. 1309.