Robert Cecil, iarll 1af Salisbury

Oddi ar Wicipedia
Robert Cecil, iarll 1af Salisbury
Ganwyd1 Mehefin 1563 Edit this on Wikidata
Westminster Edit this on Wikidata
Bu farw24 Mai 1612 Edit this on Wikidata
o canser Edit this on Wikidata
Marlborough Edit this on Wikidata
Man preswylHatfield House Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Lord High Treasurer, Arglwydd y Sêl Gyfrin, Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Member of the 1584-85 Parliament, Member of the 1586-87 Parliament, Member of the 1589 Parliament, Member of the 1593 Parliament, Member of the 1597-98 Parliament, Aelod o Senedd 1601 Edit this on Wikidata
TadWilliam Cecil Edit this on Wikidata
MamMildred Cooke Edit this on Wikidata
PriodElizabeth Brooke Edit this on Wikidata
PlantWilliam Cecil, Catherine Cecil, Frances Cecil Edit this on Wikidata
Llinachceciliaid Allt-yr-ynys Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd y Gardas Edit this on Wikidata
Y Gwir Anrhydeddus
Iarll Salisbury
KG PC
Iarll Salisbury gan John de Critz yr Hynaf
ca. 1602
Arglwydd Uwch-Drysorydd
Yn ei swydd
4 Mai 1608 – 24 Mai 1612
TeyrnIago I
Rhagflaenwyd ganIarll Dorset
Dilynwyd ganComisiynydd y Trysorlys
Henry Howard, iarll 1af Northampton, Arglwydd Cynta'r Drysorlys
Lord Privy Seal
Yn ei swydd
1598–1612
TeyrnElizabeth I
Iago I
Rhagflaenwyd ganYr Arglwydd Burghley
Dilynwyd ganHenry Howard, iarll 1af Northampton
Canghellor dugiaeth Lancaster
Yn ei swydd
8 Hydref 1597 – 1599
TeyrnElizabeth I
Ysgrifennydd Gwladol
Yn ei swydd
5 Gorff. 1596 – 24 Mai 1612
TeyrnElizabeth I
Iago I
Rhagflaenwyd ganWilliam Davison
Dilynwyd ganJohn Herbert
Manylion personol
GanwydRobert Cecil
(1563-06-01)1 Mehefin 1563
Llundain
Bu farw24 Mai 1612(1612-05-24) (48 oed)
Marlborough, Wiltshire
Lloegr
PriodElizabeth Brooke
PerthnasauArlwydd Burghley (Tad)
Cartref"Hatfield House"
Alma materColeg Sant Ioan, Caergrawnt

Roedd Robert Cecil, iarll 1af Salisbury (1 Mehefin 1563? – 24 Mai 1612) yn weinyddwr ac yn wleidydd Seisnig ac yn ail fab i William Cecil, barwn Burghley a'i wraig Mildred Cooke, ac roedd o linach Cymreig. Ei frawd hynaf Thomas Cecil, iarll 1af Exeter, a etifeddodd cartre'r teulu, ond gan Robert oedd y gallu a'r crebwyll gwleidyddol. Roedd yr athronydd Francis Bacon yn gefnder cyntaf iddo.

Gŵr bychan ydoedd o ran corff, ac roedd yn gefngrwm. Derbyniodd wawd drwy ei oes a galwai Elisabeth I, brenhines Lloegr ef yn "my pygmy" a "my little beagle" oedd llysenw Iago, brenin Lloegr a'r Alban arno. Er ei anabledd, ef, y brawd ieuanc, a etifeddodd allu gwleidyddol ei dad. Nododd y tad ar un adeg, y gallai Robert reoli'r wlad, ond na allai Thomas "hyd yn oed rheoli gêm o denis.

Mynychodd Goleg Sant Ioan, Caergrawnt yn yr 1580au, ond ni wnaeth ei radd.[1][2] Eisteddodd yn Nhŷ'r Cyffredin (Y Deyrnas Unedig) am y tro cyntaf yn 1584, gan gynrychioli'r etholaeth lle'i ganed: Bwrdeisdref Westminster.

Yn wahanol i'w frawd Thomas a ymfalchiai yn ei dras Gymreig, pan geisiodd Cymro a ysgrifennodd ato brofi bod ach y Ceciliaid i'w olrhain trwy deulu'r Fychaniaid hyd at [Tywysog Cymru|Dywysogion Cymru, mynegodd ef yn bur drahaus nad oedd ganddo ddiddordeb yn y teganau gweigion hyn (in these vain toys) ac na fynnai glywed y fath ffwlbri (such absurdities).

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Cecil, Robert (CCL581R)". Cronfa Ddata Alumni Caergrawnt. Prifysgol Caergrawnt.
  2. "Britannica.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-11-10. Cyrchwyd 2016-08-26.