Tenis brenhinol

Oddi ar Wicipedia
Jeu de paume yn yr 17fed ganrif.

Y gêm raced gwreiddiol sy'n ôl-ddyddio tenis cyfoes yw tenis brenhinol, neu tenis real. Adnabyddir fel jeu de paume yn Ffrainc, "tenis llys" yn yr Unol Daleithiau.[1]

Defnyddiwyd y term "real" am y tro cyntaf yn yr 20g, er mwyn gwahaniaethu rhwng y gêm hynafol a'r gêm tenis "lawnt" gyfoes (er na chwaraeir tenis lawnt ar lawntiau yn aml heddiw).

Mae tenis brenhinol yn parhau i gael ei chwarae gan rai brwdfrydig ar 47 cwrt yn y Deyrnas Unedig, Awstralia, yr Unol Daleithiau, a Ffrainc. Er bod cofnod hanesyddol o gyrtiau'n bodoli yn y Taleithiau Almaenig o'r 17g, mae'n ymddangos i'r chwaraeon ddod i ben yno yn ystod neu ar ôl ailadeiladu'r wlad yn dilyn yr Ail Ryfel Byd. Cefnogir a llywodraethir y chwaraeon gan amryw o gymdeithasau ledled y byd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Richard Schickel, The World of Tennis, The Ridge Press, Efrog Newydd, 1975, ISBN 0-394-49940-9, tud.32

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am denis. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.