Richard Gere
| Richard Gere | |
|---|---|
Richard Gere |
|
| Geni | 31 Awst, 1949 Philadelphia Pennsylvania, Unol Daleithiau |
| Enwau eraill | Richard Tiffany Gere |
| Enwog am | Chicago, Pretty Woman, American Gigalo |
| Galwedigaeth | Actor |
Actor Americanaidd yw Richard Tiffany Gere [1] (ganwyd 31 Awst 1949). Dechreuodd actio yn ystod y 1970au a daeth i enwogrwydd ym 1980 am ei rôl yn y ffilm American Gigolo. Yn ystod ei yrfa, mae ef wedi serennu mewn nifer o ffilmiau llwyddiannus gan gynnwys An Officer and a Gentleman, Pretty Woman, Primal Fear, a Chicago, pan enillodd Wobr Golden Globe am yr Actor Gorau yn ogystal a Gwobr Cymdeithas yr Actorion Sgrin am y Cast Gorau.
[golygu] Ei fywyd cynnar
Ganwyd Gere yn Philadelphia, Pennsylvania yn ddisgynnydd i Bererinwyr y Mayflower Francis Eaton, John Billington, George Soule, Richard Warren, Degory Priest, William Brewster a Francis Cooke.[2] Gwraig tŷ oedd ei fam, Doris Anna Tiffany ac asiant yswiriant oedd ei dad, Homer George Gere. Mae gan Gere dair chwaer ac un brawd. Ym 1967, graddiodd o Ysgol Uwchradd Ogledd Syracuse, Efrog Newydd lle rhagorai mewn gymnasteg a cherddoriaeth, gan chwarae'r trwmped. Mynychodd Brifysgol Amherst Massachusetts, gan ganolbwyntio ar athroniaeth. Fodd bynnag, ni raddiodd a gadawodd ar ôl dwy flynedd.[3]
[golygu] Ffilmiau
- American Gigolo
- An Officer and a Gentleman
- Breathless (ffilm 1983)
- Pretty Woman
- First Knight
- Runaway Bride
- Dr. T and the Women
- The Mothman Prophecies
- Unfaithful
- Chicago
- Shall We Dance
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ "The New England Ancestry of Actor Richard (Tiffany) Gere" Roberts, Gary Boyd. New England Historic Genealogical Society. 2007-01-12
- ↑ "The New England Ancestry of Actor Richard (Tiffany) Gere" Roberts, Gary Boyd. New England Historic Genealogical Society. 2007-01-12
- ↑ BiographyChannel"Richard Gere Biography", Carey Latimore, The Biography Channel. Adalwyd ar 1 Mai, 2008.