Rhydwilym Capel y Bedyddwyr

Oddi ar Wicipedia
Rhydwilym Capel y Bedyddwyr
Matheglwys, capel Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadClunderwen Edit this on Wikidata
SirClunderwen Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr60.5 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.890591°N 4.741843°W Edit this on Wikidata
Cod postSA66 7QJ Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II Edit this on Wikidata
Manylion
Ffotograff o Gapel Rhydwilym gan John Thomas

Mae Rhydwilym yn un o gapeli cynharaf y Bedyddwyr, yng nghefngwlad Sir Benfro, gorllewin Cymru. Fe'i corfforwyd yn 1668 ac fe adeiladwyd y capel cyntaf yn 1701 a adeildwyd trwy gefnogaeth John Evans, Llwyndŵr. Helaethwyd y capel yn 1763 a chodwyd capel newydd yn 1841. Codwyd yr un presennol yn 1875.

Yn lobi y capel presennol mae carreg o'r adeilad gwreiddiol gyda'r geiriau canlynol wedi eu torri arni:

JOHN EVANS O LLWYNDWR GOSTODD
GWNEUTHUR.Y.TY. HWN ANNO DOM 1701
GAN DDYMUNO. Y. TY. HUN . Y. USE. Y
BOBLE BYTH. SY. N. DALA Y. vi GWUDDOR
SY. N. Y. vi OR. HEBRE. 1.2

Cyfeiriad at Y Llythyr at yr Hebreaid, Pennod 1, adnod 2, yn y Testament Newydd, sydd yn y llinell olaf.

Ymfudodd 16 o'r aelodau i Delaware, UDA, yn 1701 a sefydlu eglwys yno.

Gweinidogion Rhydwilym[golygu | golygu cod]

  • Gabriel Rees
  • Thomas Jones

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Owen, D. Huw, Capeli Cymru (Talybont: Y Lolfa, 2005), tt.171–2

Dolen allanol[golygu | golygu cod]