Rhif cymhlyg
Oddi ar Wicipedia
Mae rhif cymhlyg yn rhif sydd â rhan real a rhan ddychmygol. Mae'r cysyniad hwn yn ychwanegu dimensiwn arall at y llinell rif un-dimensiwn, gan greu byd dau-ddimensiwn: y naill ddimensiwn yn disgrifio rhan real y rhif cymhlyg a'r llall yn disgrifio'r rhan ddychmygol.
Mynegir rhif cymhlyg gyda'r nodiant
lle mae a a b yn rhifau real. i yw'r uned ddychmygol, ac fe'i diffinnir fel y gwerth ar gyfer x sy'n bodloni'r hafaliadau canlynol:
Gellir dangos rhif cymhlyg ar ddiagram Argand, sef graff gyda'r echelin x yn cynrychioli'r rhan real, a'r echelin y yn cynrychioli'r rhan ddychmygol ar y plân cymhlyg.
Rhoddir gwerth absoliwt (neu fodwlws) y rhif cymhlyg z=a+bi gan Theorem Pythagoras, sef




