Rheilffordd Bae'r Ynysoedd

Oddi ar Wicipedia
Rheilffordd Bae'r Ynysoedd
Bay Of Islands Vintage Railway
Gabriel yn gyrru dros Bont Pump.
Ardal leolKawakawa, Bae'r Ynysoedd, Northland,  Seland Newydd
TerminwsTaumarere
Gweithgaredd masnachol
EnwCangen Opua
Adeiladwyd ganGlofeydd Kawakawa (Kawakawa - Taumarere)
Rheilffyrdd Llywodraeth Seland Newydd (Otiria - Kawakawa, Taumarere - Opua)
Maint gwreiddiol1435mm (cledrau)
1067mm (rheilffordd)
Yr hyn a gadwyd
PerchnogionRheilffordd Hynafol Bae'r Ynysoedd
GorsafoeddDwy
Hyd11.5km (cyfanswm)
Maint 'gauge'1067mm
Hanes (diwydiannol)
Agorwyd1868 (fel tramffordd)
Caewyd1985
Hanes (Cadwraeth)
Gabriel ar y Stryd Fawr
Charlie
Sweetie

Agorwyd Rheilffordd Bae'r Ynysoedd (Saesneg: Bay of Islands Vintage Railway) rhwng Kawakawa ac Opua, yn rheilffordd dreftadaeth, yn y 1980au. Mae'r rheilffordd yn 11.5 cilomedr o hyd. Oherwydd problemau, caewyd y rheilffordd yn 2006 ond erbyn hyn mae trenau'n myndo o Kawakawa i Taumarere, 4 cilomedr i ffwrdd.[1]

Hanes[golygu | golygu cod]

Darganfuwyd glo yn Kawakawa ym 1864, ac ym 1868, adeiladwyd rheilffordd 4 cilomedr o hyd i gludo glo o'r lofa i Taumerere ar Afon Kawakawa. Estynnwyd y lein i Opua ym 1884, a daeth Opua'n borthladd. Adeiladwyd yr orsaf bresennol yn Kawakawa ym 1911.[1]

Locomotifau stêm[2][golygu | golygu cod]

Rhif 1730, Gabriel[golygu | golygu cod]

4-4-0T, 28 tunnell. Adeiladwyd gan gwmni Thomas Peckett ym Mryste ym 1927. Adeiladwyd 4 locomotif arall o'r un dosbarth; aeth 2 i Iwerddon ac y 2 arall i Borneo. Dim ond Gabriel sy'n weddill. Llogwyd o gwmni Sement Portland Wilson, ger Whangarei ym 1985, cyn i'r rheilffordd ei brynnu.

Rhif 1645, Thomas[golygu | golygu cod]

0-6-0ST. Adeiladwyd gan gwmni Thomas Peckett ym Mryste ym 1923 ar gyfer Cwmni Glo Pukemiro, De Auckland, a gweithiodd yno hyd at 1958. Daeth yn rhan o faes chwarae wrth y Lein Pukemiro, rheilffordd dreftadaeth ar y lein o Huntly i bwll glo Pukemiro. Yn 2015 roedd angen ailadeiladu'r injan.

Locomotifau diesel[3][golygu | golygu cod]

Rhif 2730, Charlie[golygu | golygu cod]

0-6-0 efo peiriant Gardner. Adeiladwyd ym 1967 yn Burton upon Trent. Gweithiodd ar Reilffordd Seland Newydd rhwng 1954-1986 ac efo Steam Incorporated rhwng 1986-1994. Mae ar Reilffordd Bae'r Ynysoedd ers hynny, ar fenthyg o Graham Winterbourne. Fe'i defnyddir i wella'r lein.

Rhif 184, Freddie[golygu | golygu cod]

0-4-0 efo peiriant Gardner. Adeiladwyd ym 1958 yn Thames, Seland Newydd gan A & G Price. Fe'i defnyddiwyd yng Nglofa Glen Afton, Huntly, ag wedyn gan Grŵp Llaeth Seland Newydd. Cyrhaeddodd y rheilffordd ym 1986. Enwyd yr injan ar ôl Friedensreich Hundertwasser, noddwr y rheilffordd a phensaer y toiledi enwog yn y pentre.

Rhif 3659, Ruby[golygu | golygu cod]

0-4-0 efo peiriant Cummins. Adeiladwyd ym 1973 gan Baguley-Drewry yn Burton upon Trent. Gweithiodd dros AFFCO ym Moerewa. Prynwyd ar wefan TradeMe gan gefnogwraig ddi-enw y rheilffordd, ar amod bod y locomotif yn cael ei pheintio'n goch ac yn cael yr enw 'Ruby'.

Rhif 1137, Sweetie[golygu | golygu cod]

Yn wreiddiol, injan stêm 0-6-2T; 0-6-0 erbyn hyn. Adeiladwyd ym 1896 gan Gwmni Avonside yn Addington, Seland Newydd. Gweithiodd ar Reilffordd Seland Newydd hyd at 1944 cyn trosglwyddo i Gwmni AFFCO]]. Methodd ei foeler ym 1952, a newidiwyd ef yn locomotif diesel. Prynwyd ym 1994 gan y rheilffordd. Nid oes peiriant ynddo ar hyn o bryd.

Rhif 187, Timmy[golygu | golygu cod]

0-4-0 efo peiriant Gardner 6L3. Adeiladwyd gan A & G Price ym 1959. Cyrhaeddodd y rheilffordd yn 2012 o weithdy Otahuhu. Enwyd ar ôl ei berchennog, Tim Edney; mae ar fenthyg parhaol i'r rheilffordd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "Tudalen hanes ar wefan y rheilffordd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-01-13. Cyrchwyd 2015-02-17.
  2. "tudalen locomotifau stêm y rheilffordd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-01-13. Cyrchwyd 2015-02-17.
  3. "tudalen locomotifau diesel y rheilffordd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-01-13. Cyrchwyd 2015-02-17.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]

Gwefan y rheilffordd