Reservoir Dogs

Oddi ar Wicipedia
Reservoir Dogs

Poster y Ffilm
Cyfarwyddwr Quentin Tarantino
Cynhyrchydd Lawrence Bender
Ysgrifennwr Quentin Tarantino
Serennu Harvey Keitel
Tim Roth
Steve Buscemi
Chris Penn
Michael Madsen
Lawrence Tierney
Sinematograffeg Andrzej Sekula
Golygydd Sally Menke
Dylunio
Cwmni cynhyrchu UDA:
Miramax Films / Lionsgate
DU:
Rank Film Distributors
Canada:
Momentum Pictures
Amser rhedeg 99 munud
Gwlad Unol Daleithiau
Iaith Saesneg

Reservoir Dogs (1992) oedd ffilm gyntaf y cyfarwyddwr a'r ysgrifennwr Quentin Tarantino. Portreada'r ffilm yr hyn sy'n digwydd cyn ac ar ôl i ladrad o emau fynd o'i le. Mae'r ffilm yn serennu Harvey Keitel, Steve Buscemi, Tim Roth, Michael Madsen, Quentin Tarantino, Eddie Bunker, Chris Penn a Lawrence Tierney. Roedd gan Tarantino rôl fechan yn y ffilm. Amlyga'r ffilm nifer o themâu ac elfennau gweledol sydd wedi dod yn nodweddiadol o waith Tarantino: troseddau treisgar, cyfeiriadau at ddiwylliant pop, deialog cofiadwy, iaith gref a llinnyn stori na sydd yn unionlin.

Ystyrir y ffilm yn glasur ym myd ffilmiau annibynnol ac yn lwyddiant cwlt. Enwyd y ffilm y "Ffilm Annibynnol Gorau Erioed" gan gylchgrawn Empire. Derbyniodd y ffilm feriniadaethau canmoladwy a chanmolwyd y cast. Er na hyrwyddwyd y ffilm lawer pan gafodd ei rhyddhau, roedd y ffilm yn lwyddiant cymhedrol, gan wneud $2,832,029, ac felly'n ad-ennill y cyllid a wariwyd arni. Fodd bynnag, bu'r ffilm yn lwyddiant ysgubol yn y Deyrnas Unedig; gwnaeth £6.5 miliwn yn y swyddfa docynnau a chynyddodd ei phoblogrwydd yn sgîl llwyddiant y ffilm Pulp Fiction, hefyd gan Tarantino. Yn aml, beirniedir y ffilm am y trais a'r rhegfeydd a gynhwysir, a dywedir i aelodau o'r gynulleidfa gerdded allan yn ystod golygfa o artaith.

Rhyddhawyd trac sain o'r enw Reservoir Dogs: The Original Motion Picture Soundtrack i gyd-fynd â'r ffilm, sy'n cynnwys caneuon a ddefnyddiwyd yn y ffilm, yn bennaf caneuon o'r 1970au. Yn 2006, rhyddhawyd gêm fideo a gafodd adolygiadau cymysg. Fel y ffilm, ystyriwyd y gêm yn ddadleuol oherwydd ei natur dreisgar.

Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm drosedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.