Private Eye

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Clawr Gorffennaf 2011

Cylchgrawn dychanol a materion cyfoes a gyhoeddir yn bythefnosol yn y Deyrnas Unedig yw Private Eye. Golygydd cyfredol y cylchgrawn yw Ian Hislop. Fe'i cyhoeddwyd yn gyntaf yn 1961 ac mae'n enwog am ddychanu a lambastio enwogion a phobl cyhoeddus sydd (yn llygad y cylchgrawn) yn euog o unrhyw beth megis hunan falchder, twyll neu anallu person i gyflawni gofynion ei swydd. Mae'n ystyried ei hun yn rhyw fath o ddraenen yn ystlys y sefydliad.

Ceir yn y cylchgrawn golofn o'r enw Wikipedia Whispers sy'n dadlenu achosion o bobl sy'n ehangu erthyglau Wikipedia arnyn nhw eu hunain.


Book template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.