Pretoria
Oddi ar Wicipedia
Prifddinas De Affrica yw Pretoria. Rhennir swyddogaethau pridffdinas i raddau yn Ne Affrica, gyda rhywfaint o swyddogaethau deddfwriaethol yn Nhref y Penrhyn a swyddogaethau cyfreithiol yn Bloemfontein, ond Pretoria yw'r brifddinas de facto.
Saif yng ngogledd-ddwyrain y wlad, yn nhalaith Gauteng. Mae'n rhan o adral ddinesig Tshwane, ac mae symudiad ar y gweill i newid enw y ddinas ei hun i "Tshwane". Sefydlwyd y ddinas yn 1855 gan Marthinus Pretorius, a'i henwodd ar ôl ei dad, Andries Pretorius.
Mae poblogaeth y ddinas ei hun tua un miliwn, a phoblogaeth yr ardal ddinesig yn 1,985,997. Y prif ieithoedd a siaredir yno yw Tswana, Afrikaans, Ndebele a Saesneg.