Porth Madryn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Traeth Porth Madryn
Edrych ar y morfilod yn y Golfo Nuevo

Mae Porth Madryn (Sbaeneg: Puerto Madryn) yn un o drefi mwyaf talaith Chubut, Ariannin, gyda phoblogaeth o 45,047 yn 1991 ond bellach wedi tyfu i 57,571 yn ôl cyfrifiad 2001. Mae wedi'i gefeillio gyda Nefyn.

Daearyddiaeth[golygu]

Saif Puerto Madryn ar lan y môr ar y Golfo Nuevo, y bae rhwng Gorynys Valdés a Punta Ninfas. I dwristiaid, mae'n bwysig fel y dref fwyaf cyfleus ar gyfer ymweliad a Gorynys Valdés, sy'n nodedig am ei adar a bywyd gwyllt arall. Mae'r hinsawdd yn sych ac yn oer, gyda rhwng 150 a 200 mm o wlybaniaeth y flwyddyn.

Hanes[golygu]

Gwelwyd yr Ewropeaid cyntaf yn y cylch yn 1779 pan laniodd Juan de la Piedra. Sefydlwyd y dref ar y 28 Gorffennaf 1865 pan gyrhaeddodd 150 o Gymry yn y llong Mimosa. Hwy a roes yr enw "Porth Madryn" i anrhydeddu Love Jones-Parry o Fadryn a oedd wedi bod o gymorth mawr iddynt. Tyfodd y dref o ganlyniad i fewnfudwyr Cymreig, Sbaeneg ac Eidaleg adeiladu rheilffordd i'w chysylltu â Threlew.

Economi[golygu]

Mae'r dref yn dibynnu yn bennnaf ar dri diwydiant, cynhyrchu alwminiwm, pysgota a thwristiaeth. Cyflogir tua 1,700 o weithwyr yn y gwaith ALUAR Aluminio Argentino. Yn yr haf mae llawer o dwristiaid yn dod i fwynhau'r traethau, tra yn y gaeaf trefnir teithiau o'r dref i weld morfilod, pengwiniaid a bywyd gwyllt arall.

Baner Porth Madryn

Gefeilldrefi[golygu]


Dinasoedd, trefi a phentrefi'r Chubut Baner yr Ariannin
- Aldea Apeleg - Cerro Cóndor - Comodoro Rivadavia - Dolavon - Esquel - Gaiman - José de San Martín - Lago Blanco- Lago Puelo - Lagunita Salada - Las Plumas - Los Altares - Paso de Indios - Paso del Sapo - Puerto Madryn - Puerto Pirámides - Rada Tilly - Rawson - Río Mayo - Río Pico - Sarmiento - Tecka - Telsen - Trelew - Trevelin - Veintiocho de Julio