Port-au-Prince
Oddi ar Wicipedia
Port-au-Prince (Creoleg: Pòtoprens) yw prifddinas a dinas fwyaf Haïti. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 1,277,000, tra'r oedd poblogaeth yr ardal ddinesig, yn cynnwys Delmas, Carrefour a Fond-Parisien rhwng 2.5 a 3 miliwn.
Saif y ddinas ar lan bae yng Ngwlff Gonâve. Mae'n borthladd pwysig, yn allforio coffi a siwgwr.Sefydlwyd y ddinas yn 1749 gan dyfwyr siwgwr Ffrengig, ac yn 1804 daeth yn brifddinas Haïti annibynnol.