Pont y Crimea

Oddi ar Wicipedia
Pont y Crimea
Enghraifft o'r canlynolpont ffordd, pont reilffordd, truss arch bridge, cross-sea bridge Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2015 Edit this on Wikidata
LleoliadRwsia, Wcráin Edit this on Wikidata
Map
RhagflaenyddKerch Strait ferry line, Kerch railroad bridge Edit this on Wikidata
RhanbarthKerch, Temryuksky District, Rwsia, Wcráin Edit this on Wikidata
Hyd16,857.28 metr, 19,000 metr, 18,118.05 metr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Pâr o bontydd cyfochrog—un i ffordd bedair lôn ac un i reilffordd ddeudrac—sydd yn rhychwantu Culfor Kerch rhwng Gorynys Taman yng Nghrai Krasnodar, Ffederasiwn Rwsia, a Gorynys Kerch yn y Crimea yw Pont y Crimea (Rwseg: Крымский мост, tr. Krymskiy most, IPA: [ˈkrɨmskʲij most]), a elwir hefyd Pont Culfor Kerch neu Bont Kerch. Codwyd gan lywodraeth Rwsia yn sgil cyfeddiannu'r Crimea, a fu ynghynt yn rhan o Wcráin, ar ddechrau Rhyfel Rwsia ac Wcráin yn 2014, gyda chost o 227.92 biliwn (US$3.7 biliwn).[1] Hon yw'r bont hiraf yn Ewrop[2][3][4] a'r bont hiraf a adeiladwyd erioed yn Rwsia,[5] a chanddi hyd o 19 km (12 mi), gan gynnwys yr heolydd gawsai ar y naill ochr; mae'r bont reilffordd ei hun yn 18.1 km (11 14 mi) a'r bont ffordd yn 17 km (10 12 mi).[6] Yn ogystal â thrafnidiaeth, nod llywodraeth Rwsia wrth godi'r bont oedd i gryfhau ei hawl i diriogaeth y Crimea.[7][8]

Yn Ionawr 2015, rhoddwyd y contract i adeiladu'r bont i gwmni Stroygazmontazh, a sefydlwyd gan Arkady Rotenberg. Cychwynnodd y gwaith o godi'r bont ei hun yn Chwefror 2016. Cyhoeddwyd gwblhad y bont ffordd gan yr Arlywydd Vladimir Putin ar 15 Mai 2018, a chafodd ei agor i geir ar 16 Mai ac i lorïau ar 1 Hydref 2018.[9][10] Agorwyd y bont reilffordd yn swyddogol ar 23 Rhagfyr 2019, a chroesodd y siwrnai reolaidd gyntaf i deithwyr ar ei thraws ar 25 Rhagfyr. Agorodd y bont i drenau llwythi ar 30 Mehefin 2020. Ar 15 Awst 2020 cofnodwyd y nifer uchaf o gerbydau i groesi'r bont mewn un diwrnod, cyfanswm o 36,393 o geir.[11]

Fe'i enwyd yn "Bont y Crimea" o ganlyniad i bleidlais ar-lein yn Rhagfyr 2017; "Pont Kerch" oedd yr ail ddewis, ac "Y Bont Ailuno" oedd y trydydd.[12]

Ar 8 Hydref 2022 bu ffrwydrad enfawr ar y ffordd o Rwsia i'r Crimea, gan gychwyn tân ac achosi rhannau o'r bont i gwympo i'r môr.[13]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Controversial Russia-Crimea bridge opens". BBC News (yn Saesneg). 2018-05-15. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 September 2022. Cyrchwyd 2022-10-08.
  2. Hodge, Nathan. "Russia's bridge to Crimea: A metaphor for the Putin era". CNN. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 August 2022. Cyrchwyd 17 May 2018.
  3. "Bridge connects Crimea to Russia, and Putin to a Tsarist dream". South China Morning Post (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 June 2022. Cyrchwyd 17 May 2018.
  4. "Putin inaugurates bridge by driving a truck across to seized peninsula Crimea". ABC News (yn Saesneg). 15 May 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 June 2022. Cyrchwyd 17 May 2018.
  5. "Russia pushes back 'Putin's bridge' to annexed Crimea by a year". Reuters (yn Saesneg). 2016-04-13. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 November 2019. Cyrchwyd 2019-11-28.
  6. "Завершено сооружение пролетов Крымского моста под автодорогу". РИА Новости Крым (yn Rwseg). 2017-12-20. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 December 2019. Cyrchwyd 2019-05-27.
  7. Walker, Shaun (31 August 2017). "Russia's bridge link with Crimea moves nearer to completion" (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 September 2021. Cyrchwyd 19 September 2018.
  8. "Russia Makes Bold Move to Try to Solidify Control Over Crimea". The Daily Signal. 2018-05-18. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 September 2021. Cyrchwyd 2019-11-28.
  9. "Автодорожная часть Крымского моста открылась для движения автомобилей". ТАСС (yn Rwseg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 April 2019. Cyrchwyd 16 May 2018.
  10. Крымский мост открыли для проезда грузовиков: фото и видео [Crimean Bridge has been opened for truck traffic: photo and video]. 24.ua (yn Rwseg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 February 2020. Cyrchwyd 2019-05-27.
  11. "На Крымском мосту установили новый рекорд автотрафика". TASS. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 October 2022. Cyrchwyd 18 August 2020.
  12. "Голосование за название строящегося в Керченском проливе моста завершено". Interfax.ru (yn Rwseg). 17 December 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 December 2019. Cyrchwyd 17 May 2018.
  13. Bachega, Hugo; Jackson, Patrick (10 October 2022). "Crimea bridge partly reopens after huge explosion - Russia". BBC News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 October 2022. Cyrchwyd 10 October 2022.