Crai Krasnodar

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Baner Crai Krasnodar.
Lleoliad Crai Krasnodar yn Rwsia.

Un o ddeiliaid ffederal Rwsia yw Crai Krasnodar (Rwseg: Краснода́рский край, Krasnodarsky kray; 'Krasnodar Krai'). Canolfan weinyddol y crai (krai) yw dinas Krasnodar. Poblogaeth: 5,226,647 (Cyfrifiad 2010).

Lleolir y crai yn rhanbarth gweinyddol y Dosbarth Ffederal Deheuol, yn ne-orllewin Rwsia. Llifa Afon Kuban drwy'r crai, sy'n gorwedd yn rhagfryniau Mynyddoedd y Cawcasws. Mae'n ffinio gyda Wcrain (gyda Culfor Kerch a Môr Azov yn gorwedd rhyngddynt), gyda Oblast Rostov, Crai Stavropol, a Gweriniaeth Karachay–Cherkess yn Rwsia, a gyda gweriniaeth Abkhazia a fu'n rhan o Georgia. mae tiriogaeth y crai'n amgylchynnu'n gyfan gwbl Gweriniaeth Adygea. Ar ffin ddeheuol Crai Krasnodar Krai's ceir y cwbl sy'n weddill o arfordir Rwsia ar y Môr Du, sy'n cynnwys porthladd mawr Novorossiysk a dinas wyliau Sochi.

Sefydlwyd Crai Krasnodar ar 13 Medi, 1937, yn yr hen Undeb Sofietaidd.

Dolenni allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
Flag Russia template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Rwsia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.