Pont du Gard

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Pont du Gard

Traphont Rufeinig yn cario acwedwct dros afon Gardon yn ne Ffrainc yw'r pont du Gard. Saif yn commune Vers-Pont-du-Gard, gerllaw Remoulins, yn département Gard a region Languedoc-Roussillon. Roedd yr acwedwct yn cario dŵr o darddle afon Eure yn Uzès i ddinas Nemausus, Nîmes heddiw.

Adeiladwyd yr acwedwct yn y ganrif gyntaf OC, efallai rywbryd rhwng 40 a 60 OC. Mae'r Pont du Gard ei hun yn 48,77 m o uchder a 275 m o hyd. Dynodwyd y pont du Gard yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn Rhagfyr 1985.