Afon Eure

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Afon Eure

Afon yn Ffrainc sy'n un o lednentydd afon Seine yw 'afon Eure. Mae'n rhoi ei henw i départements Eure-et-Loir ac Eure, ac hefyd yn llifo trwy département Orne.

Ceir ei tharddle yn Marchainville, gerllaw Longny-au-Perche yn département Orne, ac yn ymuno a'r Seine yn Martot. Mae'n 228.5 km o hyd. Ymhlith y dinasoedd a threfi ar ei glannau mae Chartres, Maintenon, Pacy-sur-Eure a Louviers.