Plaid Flaengar y Gweithwyr
Oddi ar Wicipedia
Plaid gomiwnyddol yng Nghyprus yw Plaid Flaengar y Gweithwyr (Groeg: Ανορθωτικό Κόμμα Εργαζόμενου Λαού, Anorthotikó Kómma Ergazómenou Laoú, AKEL; Tyrceg: Emekçi Halkın İlerici Partisi). Sefydlwyd y blaid yn 1926 fel 'Plaid Gomiwnyddol Cyprus'. Mae'n cefnogi'r egwyddor o Gyprus annibynnol, anfilwrol, ac ateb ffederal i broblemau mewnol Cyprus. Mae'n rhoi pwyslais arbennig ar fod yn gytun gyda'r Cypriaid Tyrcaidd. Cefnogodd ymaelodi â'r Undeb Ewropeaidd (gyda rhai amheuon) ac mae'n perthyn i grŵp y Chwith Unedig Ewropeaidd/Chwith Gwyrdd Nordig yn Senedd Ewrop.
