Plaid Annibyniaeth Puerto Rico

Oddi ar Wicipedia
Plaid Annibyniaeth Puerto Rico
Enghraifft o'r canlynolplaid wleidyddol Edit this on Wikidata
Idiolegindependence movement in Puerto Rico, democratiaeth gymdeithasol, separatism, sosialaeth ddemocrataidd, Gwrth-imperialaeth Edit this on Wikidata
Lliw/iaugwyrdd, gwyn Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu20 Hydref 1946 Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolSocialist International Edit this on Wikidata
PencadlysSan Juan Edit this on Wikidata
Enw brodorolPartido Independentista Puertorriqueño Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
RhanbarthPuerto Rico Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.independencia.net/index.php?lang=es Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Plaid wleidyddol ym Mhuerto Rico sy'n ymgyrchu dros annibyniaeth i Buerto Rico oddi ar yr Unol Daleithiau yw Plaid Annibyniaeth Puerto Rico (Sbaeneg: Partido Independentista Puertorriqueño, PIP). Mae'n un o'r tair plaid mawr ym Mhuerto Rico a'r ail hynaf o'r pleidiau cofrestredig yno.

Arwydd y PIP

Fel rheol, gelwir cefnogwyr y PIP a'i ideoleg yn independentistas ("annibynwyr"), neu pipiolos.

Dechreuodd y blaid fel asgell etholiadol y mudiad o blaid annibyniaeth i Buerto Rico. Erbyn heddiw y PIP yw'r mwyaf o'r pleidiau sydd o blaid annibyniaeth a'r unig un a geir ar y papurau balot printiedig adeg etholiad (rhaid ychwanegu enwau ymgeiswyr eraill mewn ysgrifen).

Sefydlwyd y blaid ar 20 Hydref, 1946, gan Gilberto Concepción de Gracia (bu farw ym 1968). Teimlai fod y mudiad dros annibyniaeth wedi cael ei "fradychu" gan y Partido Popular Democrático, a rhoddasai heibio ei nod o ennill annibyniaeth lawn i Buerto Rico.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

  • (Saesneg) [www.independencia.net/ingles/welcome.html Gwefan swyddogol PIP]