Picture Post
Oddi ar Wicipedia
Roedd Picture Post yn gylchrawn lluniau newyddion blaenllaw a gyhoeddwyd yn Lloegr o 1938 hyd 1957. Cafodd lwyddiant eithriadol o'r cychwyn cyntaf, gyda chylchrediad o 1,600,000 yr wythnos ar ôl chwe mis. Gellid ei gymharu i'r cylchgrawn Life yn yr Unol Daleithiau o ran deunydd ac apêl.
Ymysg ffotograffwyr Picture Post oedd Stanley Long, a aeth ymlaen i gynhyrchu nifer o ffilmiau sexploitation.