Patti Flynn

Oddi ar Wicipedia
Patti Flynn
GanwydPatti Young Edit this on Wikidata
1937 Edit this on Wikidata
Tiger Bay Edit this on Wikidata
Bu farw10 Medi 2020 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcanwr jazz, ymgyrchydd Edit this on Wikidata

Cantores jazz, awdures ac actores radio o Gymru oedd Patti Flynn (1937 – Medi 2020).[1] Roedd yn un o gyd-sylfaenwyr Gwyl Jazz Tre-biwt.

Cafodd Patti Young ei geni yn Tiger Bay, Caerdydd, ym 1937 a hi oedd yr ieuengaf o saith o blant. Roedd ei thad yn dod o Jamaica a'i mam o Gymru. Lladdwyd ei thad, Wilmott George Young, a dau o'i brodyr, Jocelyn ac Arthur, yn yr Ail Ryfel Byd. Bu Patti yn ymgyrchu am 26 mlynedd i gael y gofeb i ddynion a menywod o'r gymanwlad a chefndiroedd amrywiol ethnig a ychwanegwyd at Gofeb Cenedlaethol Cymru yn Nhachwedd 2019.[2]

Rhyddhawyd ei halbwm With Love to You ar label SRT Productions Ltd ym 1979 a'i senglau Xmas Every Day (label Prairie Records) a Soul Stuntmania (label Movie Music) ym 1982.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  It is with a heart full of sorrow and sadness that we write to inform you of the sad passing of our beautiful Black History Wales patron Patti Flynn. Black History Month Wales (11 Medi 2020).
  2. "Black History: War memorial to black servicemen unveiled". Cyrchwyd Gorffennaf 24, 2020.
  3. "Patti Flynn - Discogs". Cyrchwyd Gorffennaf 24, 2020.