Pantanal

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y Pantanal

Y Pantanal, yn Ne America. yw'r ardal fwyaf o gors yn y byd. Mae'r rhan fwyaf o'r ardal yn nhalaith Mato Grosso, Brasil, ond mae rhannau yn Paraguay a Bolifia.

Mae'r Pantanal yn ardal o tua 150.000 km², ac yn y tymor glawog mae tua 80% ohono dan ddŵr. Daw'r dŵr o'r tir uwch gerllaw, yn enwedig Llwyfandir Mato Grosso, ac mae'n llifo o'r Pantanal yn araf ar hyd afon Paraguay. Yn y gorllewin, mae'n ffinio ar goedwigoedd sych Chiquitano, yn y de a'r de-orllewin ar y Gran Chaco, ac yn y gogledd a'r dwyrain ar laswelltir y Cerrado.

Ceir amrywiaeth eithriadol o blanhigion ac anifeiliaid yma. Dynodwyd yr ardal yn Safle Treftadaeth y Byd gan Unesco.