Paladr englyn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Dwy linell gyntaf englyn unodl union ydy paladr englyn (neu paladr, neu weithiau toddaid byr).

Dyma baladr yr englyn "Y Gorwel" o waith Dewi Emrys:

Wele rith fel ymyl rhod - o'n cwmpas

Campwaith dewin hynod,

Cwpled ar fesur y cywydd deuair hirion yw esgyll englyn, sef y ddwy linell glo.

Gweler hefyd [golygu]

Book template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.