Pago Pago
Oddi ar Wicipedia
Prifddinas de facto Samoa America yw Pago Pago. Ardal bentrefol ydyw, sy'n cynnwys sawl pentref a threflan, yn hytrach na thref neu ddinas fel y cyfryw. Mae'n cynnwys pentrefi Fagatogo ac Utulei, lle ceir canolfannau gweithredol a gweinyddol Llywodraeth Samoa America. Fe'i lleolir ar ynys Tutuila, prif ynys Samoa America yn Ne'r Cefnfor Tawel. Am fod y diriogaeth yn cyfrif fel rhan o'r Unol Daleithiau, sy'n ei rheoli, mae Pago Pago yn cael ei chyfrif fel un o 'brifddinasoedd gweinyddol' y wlad honno hefyd. Poblogaeth: tua 11,500.