Fagatogo
Oddi ar Wicipedia
Pentref yn Samoa America yw Fagatogo a leolir ar ynys Tutuila yn ardal bentrefol Pago Pago, prifddinas y diriogaeth. Dyma sedd gweithrediaeth Llywodraeth Samoa America, sy'n perthyn i'r Unol Daleithiau. Poblogaeth: 2096 (200o).
Am ei fod yn cael ei nodi yng Nghyfansoddiad Samoa America fel sedd swyddogol y llywodraeth, cyfeirir at Fagatogo fel 'prifddinas' y diriogaeth weithiau, ond mewn gwirionedd Pago Pago ei hun yw'r brifddinas.
Ceir harbwr mwyaf ynysoedd Samoa America yn Fagatogo.