Périgueux
Oddi ar Wicipedia
Eglwys Gadeiriol St.-Front, Périgueux ac afon Isle.
Périgueux yw prifddinas departement Dordogne yng nghanolbarth Ffrainc. Saif yn yr ardal a elwir y Périgord Blanc yn rhanbarth hanesyddol Périgord, gerllaw afon Isle. Roedd y boblogaeth yn 32,294 yn 2005.
Yng nghyfnod y Galiaid, enw'r ddinas oedde Vesunna. Cipiwyd hi gan Iŵl Cesar, a daeth yn ddinas Rufeinig Vesone. Daeth yn ganolfan esgobaeth erbyn y 4edd ganrif. Adeiladwyd Eglwys Gadeiriol Saint-Etienne-de-la-Cité yn y 12fed ganrif.
Adeiladau nodedig [golygu]
- Arènes Romaines (Amffitheatr Rufeinig)
- Villa de Pompeius
- Tour de Vésone
- Musée du Périgord
- Cathédrale St.-Front