Owen Williams (Owen Gwyrfai)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Bardd a hynafiaethydd hunan-addysgedig oedd Owen Williams neu Owen Gwyrfai (10 Ionawr 1790 - 3 Hydref 1874).

Bywgraffiad[golygu]

Roedd yn frodor o Waunfawr, yn ardal Arfon (Gwynedd). Cyfeiria ei enw barddol at Afon Gwyrfai. Roedd Owen Gwyrfai yn gowper wrth ei alwedigaeth.

Gwaith llenyddol[golygu]

Ymddiddorai mewn barddoniaeth Gymraeg a hynafiaethau ei fro. Copïai farddoniaeth Gymraeg o lawysgrifau a helai achau enwogion y gorffennol. Ysgrifenodd gyfrol ar fywyd Peter Williams (1723-1796), y clerigwr Methodistaidd ac esboniwr Beiblaidd. Cyhoeddodd yn ogystal eiriadur Cymraeg.

Cafodd ei addysg farddol gan Dafydd Ddu Eryri, yntau'n frodor o'r Waunfawr. Roedd yn un o'r disgleiriaf o'r cylch o ddisgyblion a alwyd yn "Gywion Dafydd Ddu", a oedd yn cynnwys yn ogystal Robert Morris 'Robin Ddu Eifionydd' (c. 1767-1816), Elis Wyn o Wyrfai (1827-1895), William Williams (Gwilym Peris) (1769-1847), Richard Jones (Gwyndaf Eryri) (1785-1848), William Edwards (Gwilym Padarn) a'i fab Griffith Edwards (Gutyn Padarn), Griffith Williams (Gutyn Peris) a William Ellis Jones (Cawrdaf).

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Y Drysorfa Hynafiaethol (1839)
  • Y Geirlyfr Cymraeg
  • Hanes Peter Williams

Cyhoeddodd ei fab Thomas Williams gofiant iddo a detholiad o'i gerddi yn y gyfrol Gemau Gwyrfai (1904).