Owain ap Huw (AS Niwbwrch)

Oddi ar Wicipedia
Owain ap Huw
Ganwyd1518 Edit this on Wikidata
Bu farw1613 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod o Senedd 1545-47 Edit this on Wikidata

Bu Owain ap Huw (tua 1518 - tua 1613) yn Aelod seneddol Niwbwrch ym 1545[1].

Roedd Owain ap Huw yn fab hynaf Huw ab Owain ap Meurig, Bodowen a Gwen merch Morus ap Siôn ap Maredudd, Clenennau. Roedd Owain yn nai i Lewis ab Owain ap Meurig AS Sir Fôn

Priododd ddwywaith. Yn gyntaf ag Elisabeth merch Rowland Gruffudd, Porthamel; bu iddynt un mab a dwy ferch, ei ail wraig oedd Sybil merch Syr William Gruffudd, Penrhyn, bu iddynt naw mab a phedair merch.

Gwasanaethodd fel Aelod Seneddol Niwbwrch ym 1545 ac fel Uchel Siryf Môn 1562-63 a 1579-80. Bu'n Ynad heddwch ym Môn am dros 40 mlynedd.

Priododd ei fab Huw Owain ag Elisabeth, merch ac aeres George Wirriott o Orielton, Sir Benfro, gan gychwyn ach ddylanwadol yn y sir honno lle fu disgynyddion iddo o'i fab i Syr Hugh Owen Owen, 2il Farwnig yn Aelodau Seneddol or 16g hyd 1868.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. The History of Parliament On line AP HUGH, Owen (1518-1613), of Bodeon, nr. Llangadwaladr, Anglesey [1] adalwyd 15 Rhagfyr 2015
  2. Y Bywgraffiadur arlein OWEN , BODEON ( BODOWEN ) [2] adalwyd 15 Rhagfyr 2015
Senedd Lloegr
Rhagflaenydd:
Richard ap Rhydderch
Aelod Seneddol Niwbwrch
1545
Olynydd:
John ap Robert Lloid