Ophelia yw'r ail o loerennau Wranws a wyddys:
- Cylchdro: 53,764 km oddi wrth Wranws
- Tryfesur: 32 km
- Cynhwysedd: ?
Merch Polonius yw Ophelia yn y ddrama Hamlet gan Shakespeare.
Cafodd y lloeren Ophelia ei darganfod gan Voyager 2 ym 1986. Ymddengys fod Ophelia'n lloeren fugeiliol i'r fodrwy Epsilon.