Voyager 2
Oddi ar Wicipedia
Cerbyd ofod a labordy gwyddonol oedd Voyager 2, un o gyfres o gerbydau archwilio gofod Voyager NASA. Cafodd ei lawnsio ar 20 Awst, 1977, gyda'r bwriad o archwilio systemau planedol Iau a Sadwrn, yn cynnwys eu lloerennau a cylchoedd Sadwrn.
Llun o Driton a dynnwyd gan Voyager 2.
Record Aur [golygu]
Cariodd y roced (fel Voyager 1 o'i blaen) record aur yn llawn o wybodaeth rhag ofn o fodau arallfydol ddod ar ei thraws. Ar y ddisg roedd lluniau o'r Ddaear, anifeiliaid, gwybodaeth gwyddonol a chyfarchion mewn amryw o ieithoedd gan gynnwys y Gymraeg: (Iechyd da i chwi yn awr, ac i'r oesoedd). Cynhwyswyd arni hefyd synau gwahanol: morfilod, plentyn yn crio, tonnau'r môr ac yn y blaen.