Only Connect

Oddi ar Wicipedia
Only Connect
GenreSioe gêm
Cyflwynwyd ganVictoria Coren Mitchell
Cyfansoddwr themaDawson Sabatini
GwladY Deyrnas Unedig
Iaith wreiddiolen
Nifer o gyfresi15
Nifer o benodau309 (cyn 30 March 2020) (yn gynnwys 31 rhaglen arbennig)
Cynhyrchiad
Hyd y rhaglen30 munud
Cwmni cynhyrchuPresentable (2008–13)
RDF Television a Parasol (2013–)
DosbarthwrZodiak Media (2008–16)
Banijay Group (2016–)
Rhyddhau
Rhwydwaith gwreiddiolBBC Four (2008–14)
BBC Two (2014–)
Fformat y llun16:9
Fformat y sainStereo
Darlledwyd yn wreiddiol15 Medi 2008 (2008-09-15) – presennol
Dolennau allanol
Only Connect

Sioe gêm Brydeinig yw Only Connect a gyflwynir gan Victoria Coren Mitchell. Cafodd ei darlledu ar BBC Four o'r 15 Medi 2008 i'r 7 Gorffennaf 2014, ac yna symudodd i BBC Two o'r 1 Medi 2014. Yn y gyfres, mae timau'n cystadlu i ddod o hyd i gysylltiadau rhwng cliwiau sydd i ddechrau yn ymddangos yn ddigyswllt.

Rhwng 2008 a 2013 recordiwyd y sioe yn Stiwdio 1 yn Stiwdios ITV Cymru Wales yng Nghroes Cwrlwys yng Nghaerdydd, sydd bellach wedi'u dymchwel. Ar ddiwedd 2013 symudodd dros dro i Stiwdios Roath Lock yng Nghaerdydd, cyn setlo o 2014 ymlaen yn Enfys Studios yng Nghaerdydd.[1][2]

Dyfeisiwyd y rhaglen gan y cwmni cynhyrchu Cymreig Presentable (sydd nawr yn rhan o RDF).[3]

Teitl[golygu | golygu cod]

Cymerwyd yr ymadrodd "Only connect" o'r nofel 1910 Howards End gan EM Forster.[4]

Fformat[golygu | golygu cod]

Mae Only Connect yn fwriadol anodd,[5][6] ac mae ei gystadleuwyr yn aml yn cael eu bortreadu - gan gynnwys yn y sioe ei hun - fel 'nerds' neu 'geeks'.[7] Anogir i'r timau cael enwau sy'n adlewyrchu eu diddordebau neu hobïau arbenigol, fel y 'LARPers' neu'r 'Francophiles'. Gall cwestiynau'r sioe ymdrin ag unrhyw bwnc, ac efallai y bydd angen gwybodaeth arbennigol o rhyw bwnc a gwybodaeth o ddiwylliant poblogaidd. Gall cwestiynau hefyd fod yn hunan-gyfeiriadol, neu'n seiliedig ar driciau ieithyddol neu rhifyddol, yn hytrach nag angen unrhyw wybodaeth ffeithiol.[8] Rhan o chwarae'r gêm yw sefydlu a yw'r cysylltiad yn thematig, yn ieithyddol, yn ffeithiol, yn fathemategol, ac ati. Mae Coren Mitchell yn cyflwyno gyda hiwmor sych, coeglyd iawn, a all gynnwys gwneud sbort ysgafn ohoni ei hun, y cystadleuwyr, y gwylwyr, tîm cynhyrchu'r sioe, enwogion, neu sioeau gêm poblogaidd eraill.[9]

Mae gan bob rhaglen ddau dîm o dri pherson sy'n cystadlu mewn pedair rownd. Yn y tair cyfres gynta labelir cliwiau Rowndiau 1, 2 a 3 gan lythrennau Groegaidd. Yng nghyfres 4 rhoddir y gorau i'r syniad hyn gan fod gwylwyr wedi cwyno ei fod rhy ymhongar. Felly ers hynny defnyddir hieroglyffau'r Hen Aifft (dwy gorsen, llew, llin troellog, neidr corniog, dŵr a llygad Horus) yn eu lle.

Rownd 1: Cysylltiadau[golygu | golygu cod]

Rhoddir timau hyd at bedwar cliw, a rhaid iddynt geisio darganfod y cysylltiad rhyngddynt o fewn 40 eiliad. Dangosir un cliw i'r tîm i ddechrau, a gallant ofyn am y tri chliw arall ar unrhyw adeg o fewn y 40 eiliad. Gall y tîm ateb ar ôl y cliw cyntaf am 5 pwynt, ar ôl yr ail cliw am 3 pwynt, ar ôl y trydydd cliw am 2 pwynt, neu ar ôl y pedwerydd cliw am 1 pwynt. Os yw'r tîm yn dyfalu'n anghywir, neu'n methu ateb mewn amser, dangosir pob cliw sydd weddill a gofynnir y cwestiwn i'r tîm arall am bwynt bonws. Mae un o'r chwe cwestiwn yn cynnwys lluniau fel cliwiau, ac mae un arall yn defnyddio darnau o gerddoriaeth (clasurol a chyfoes) fel cliwiau. Yn gyffredinol, y cwestiwn cerddoriaeth yw'r cwestiwn anoddaf y cwis, a jôc cyffredin yw gweld siom y tîm wrth sylweddoli eu bod wedi dewis y cwestiwn cerddoriaeth.

The image shows four boxes arranged in a horizontal line, containing sequential clues of "A hammer and feather", "Six US flags", "Eugene Shoemaker's ashes" and "Two golf balls".
Enghraifft o gwesiwn Rownd 1. Er mwyn ennill pwyntiau ar y cwestiwn hwn, angen ateb "Eitemau cafodd eu gadael ar y Lleuad" (neu amrywiad ohono).

Rownd 2: Dilyniannau[golygu | golygu cod]

Mae pob set o gliwiau bellach yn ddilyniant, a rhaid i dimau geisio gweithio allan beth fydd pedwaredd eitem y dilyniant (felly, dim ond tri chliw y bydd y tîm yn gallu eu gweld), eto mor gynnar â phosibl. Rhaid iddynt roi'r eitem olaf yn y dilyniant, a gallant sgorio pwyntiau hyd yn oed os yw eu theori ar gyfer y cysylltiad yn anghywir. Fel yn y rownd flaenorol, bydd pob tîm yn chwarae tair set; eto, os bydd un tîm yn methu â dyfalu, caiff ei ofyn i'r tîm arall am bwynt bonws. Fel yn Rownd 1, mae un cwestiwn yn cynnwys lluniau fel cliwiau. Gan ddechrau o rownd gogynderfynol Cyfres 10, weithiau bydd dilyniant a ddefnyddir clipiau cerddoriaeth fel cliwiau, a rhaid i'r cystadleuwyr dyfalu teitl y pedwerydd clip cerddoriaeth.

Er enghraifft, bydd gan y cliwiau dilyniannol o "Dicter", "Bargeinio" ac "Iselder" ateb cywir o "Derbyn". Rhain yw'r 2il i'r 5ed camau o model galar Kübler-Ross.

Rownd 3: Wal Gysylltu[golygu | golygu cod]

Pos "Wal Gysylltu". Yr ateb fydd sortio'r eitemau i'r grwpiau "termau ar gyfer sero", "termau Poker", "Flying ___" a "pethau wedi'u gwneud o rwber".

Mae pob tîm yn derbyn wal o 16 cliw a rhaid iddynt canfod datrysiad perffaith, hynny yw sortio i mewn i pedwar grŵp o bedair eitem gysylltiedig. Dyluniwyd y posau i gynnwys 'red herrings' ac i awgrymu mwy o gysylltiadau nag sy'n bodoli mewn gwirionedd, er enghraifft bydd rhai cliwiau'n ffitio i fwy nag un categori.[8] Mae timau'n sgorio 1 pwynt ar gyfer pob grŵp a chanfyddir o fewn 2 funud 30 eiliad. Maent yn ceisio creu un grŵp ar y tro, a mae ganddynt nifer anfeidraidd o ddyfaliadau ar gyfer y ddau grŵp cyntaf. Ar ôl i ddau grŵp gael eu nodi, dim ond tri chyfle sydd ganddyn nhw i adnabod y ddau grŵp sy'n weddill.

Os bydd y tîm yn methu â chwblhau'r wal, bydd y grwpiau coll yn cael eu dangos iddyn nhw. Yna gall timau ennill 1 pwynt ar gyfer bob grŵp lle mae'n nhw'n gallu enwi'r cysylltiad. Mae tîm sy'n canfod pedwar grŵp yn gywir ac yn enwi'r pedwar cysylltiad yn gywir yn ennill dau pwynt bonws 2 bwynt (cyfanswm o 10 pwynt).

Ar 1 Mawrth 2010, rhoddwyd fersiwn ar-lein ryngweithiol o'r rownd hon ar wefan Only Connect.[10] Daeth y gêm ar-lein i ben yng Nghyfres 10.

Rownd 4: Llafariaid coll[golygu | golygu cod]

Yn y rownd terfynol cyflwynir cyfres o bosau geiriau i'r timau. Rhoddir categori'r posau cyn iddynt gael eu harddangos, mae pob cwestiwn yn air neu'n ymadrodd heb llafariaid, ac mae'r bylchau wedi'u symud. Rhaid i'r timoedd canfod y gair neu'r ymadrodd gwreiddiol. Er enghraifft, mewn categori o "nofelau a enillodd Wobr Booker", ateb y cwestiwn "VR NNGDLT TL" fydd "Vernon God Little".

Mae timau'n ateb ar yr un pryd gan ddefnyddio buzzer, yn sgorio 1 pwynt ar gyfer pob cwestiwn maen nhw'n ei ddatrys. I ddechrau, ni chafwyd cosb am ddyfalu’n anghywir ar y rownd hon, ond gan ddechrau gyda’r rownd gogynderfynol Cyfres 1, mae timau nawr yn wynebu cosb o 1 pwynt am bob ateb anghywir. Yn ogystal, os yw'r tîm yn ateb yn anghywir (hyd yn oed gan un llythyren) mae gan y tîm arall cyfle i ateb am bwynt bonws.

Mae'r rownd yn para rhwng 90 eiliad a thri munud. Y tîm sydd â'r nifer fwyaf o bwyntiau ar ddiwedd y gêm yw'r enillydd. Os yw'r gêm yn gyfartal yna rhoddir un cwestiwn sudden death i gapten pob tîm. Y capten i ateb yn gyntaf ac yn rhoi’r ateb cywir sy'n ennill am ei tîm. Ond mae ateb anghywir yn fforffedu’r gêm yn awtomatig. Ni roddir categori am y cwestiwn hwn, ond mae fel arfer yn cyfeirio at natur y cwestiwn fel penderfynnwr y gêm: er enghraifft "So Long and Thanks for All the Fish", "To the Victor, the Spoils" a "Winner Stays On".

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Credits – Enfys HD TV Studios".
  2. Kempton, Martin. "The rest of the UK – today (more or less)". An incomplete history of London's television studios (yn Saesneg). Cyrchwyd 24 August 2019.
  3. Presentable of Cardiff boosted by new TV commissions (en) , WalesOnline, 18 Tachwedd 2019.
  4. Lawrence, Ben (27 October 2018). "Only Connect: my love-affair with TV's brainiest quiz show". Daily Telegraph (yn Saesneg). Cyrchwyd 2 November 2018.
  5. "Sunderland quiz captain takes on TV's Only Connect" (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-11-25. Cyrchwyd 29 April 2019.
  6. "Victoria Coren Mitchell on nerd pride and finding Only Connect's niche" (yn Saesneg). Cyrchwyd 29 April 2019.
  7. Butter, Susannah. "Only Connect: Warmth and humour make whip-smart Victoria Coren-Mitchell queen of the quizzes". Cyrchwyd 29 April 2019.
  8. 8.0 8.1 "Only Connect: If you think answering the questions is hard, try setting them". Cyrchwyd 29 April 2019.
  9. "12 quotes that prove Victoria Coren Mitchell is the perfect quiz show host" (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-11-18. Cyrchwyd 29 April 2019.
  10. "Play Only Connect". BBC Four. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-04-30. Cyrchwyd 8 December 2011.