Omar Sharif

Oddi ar Wicipedia
Omar Sharif
Ffugenwعمر الشريف Edit this on Wikidata
Ganwydميشيل يوسف ديمتري شلهوب Edit this on Wikidata
10 Ebrill 1932 Edit this on Wikidata
Alexandria Edit this on Wikidata
Bu farw10 Gorffennaf 2015 Edit this on Wikidata
o trawiad ar y galon Edit this on Wikidata
Behman Hospital Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Aifft Yr Aifft
Alma mater
  • Victoria College
  • Prifysgol Cairo Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, actor ffilm, ysgrifennwr, bridge player, awdur ffeithiol, actor teledu Edit this on Wikidata
Adnabyddus amDoctor Zhivago, Lawrence of Arabia Edit this on Wikidata
Arddully Gorllewin Gwyllt Edit this on Wikidata
TadJoseph Chalhoub Edit this on Wikidata
PriodFaten Hamama Edit this on Wikidata
PlantTarek Sharif Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr y Llew Aur am Gyflawniadau Gydol Oes, Gwobr César am yr Actor Gorau, Gwobr Golden Globe am Actora Gorau - Drama Ffilm Nodwedd, Gwobr y Glob Aur am yr Actor Cefnogol Gorau - ar ffim, Golden Globe Award for New Star of the Year – Actor Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Actor a chwaraewr cardiau o'r Aifft yw Omar Sharif (Arabeg: عمر الشريف‎ (ganwyd Michel Demitri Shalhoub; 10 Ebrill 1932  – 10 Gorffennaf 2015[1]). Ystyr y cyfenw a fabwusiadodd yw "uchelwr" yn Arabeg. Ymhlith ei ffilmiau enwocaf y mae: Lawrence of Arabia (1962), Doctor Zhivago (1965) a Funny Girl (1968). Cafodd ei enwebu am Wobr yr Academi a 3 Golden Globe Award a Gwobr César.

Cafodd ei eni yn Alexandria, yr Aifft, yn fab i Joseph Chalhoub a'i wraig Claire Saada a oedd yn prynu a gwerthu coed. Derbyniodd Sharif ei addysg yng Ngholeg Victoria, Alexandira cyn ymuno gyda Phrifysgol Cairo lle'r astudiodd mathemateg a ffiseg. Priododd yr actores Faten Hamama ym 1955, gan droi'n Fwslim a chawsont un plentyn: Tarek Sharif a anwyd yn 1957. Yn 1974 chwalwyd y briodas ac ni phriododd eildro.[2] A thros y blynyddoedd disgynodd dros ei ben a'i glustiau gyda nifer o actoresau enwog gan gynnwys Ingrid Bergman, Catherine Deneuve ac Ava Gardner.[3]

Yn y 1950 serennodd mewn ffilmiau Arabeg yn ei wlad ei hun, a daeth yn boblogaidd dros nos.

Bridge[golygu | golygu cod]

O'r 1960 hyd ddiwedd y 1980au daeth yn enwog am ei hoffter o'r gêm gardiau Bridge a bu ganddo golofn ym mhapur newydd y Chicago Tribune. Sgwennodd hefyd nifer o lyfrau ar y pwnc a thrwyddedodd ei enw i gêm gyfrifiadurol yn ymwneud a bridge, sef "Omar Sharif Bridge", sydd wedi bod ar werth ers 1992.

Y diwedd[golygu | golygu cod]

Ond meistr arno oedd y ddiod gadarn a gamblo, a threuliodd lawer o nosweithiau'n yfed a gamblo. Yn 2015 datgelwyd ei fod yn dioddef o Clefyd Alzheimer’s.[4] Bu farw o drawiad ar y galon mewn ysbyty yng Nghairo yn 83 mlwydd oed.

Ffilmiau[golygu | golygu cod]

  • Sira` Fi al-Wadi (1954)
  • Ayyamna al-Holwa (1955)
  • Siraa Fil-Mina (1956)
  • Ard al-Salam (1957)
  • Goha (1958)
  • Sayedat el kasr (1959)
  • Bidaya wa nihaya (1960)
  • Nahr el hub (1961)
  • Lawrence of Arabia (1962)
  • Genghis Khan (1965)
  • Doctor Zhivago (1965)
  • The Night of the Generals (1967)
  • Funny Girl (1968)
  • The Tamarind Seed (1974)
  • Funny Lady (1975)
  • Peter the Great (1986)
  • The Jewel of the Nile (1988)
  • Memories of Midnight (1991)
  • Monsieur Ibrahim et les fleurs du Coran (2003)
  • Hidalgo (2004)
  • Fuoco su di me (2005)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]


Baner Yr AifftEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Eifftiwr neu Eifftes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.