Oloron-Sainte-Marie

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Eglwys y Santes Mair, Oloron-Sainte-Marie

Lleolir cymuned (commune) Oloron-Sainte-Marie (Basgeg: Oloroe-Donamaria) yn départemant Pyrénées-Atlantiques yn ne-orllewin Ffrainc. Mae'n un o sous-préfectures y département hwnnw. Saif tref Oloron-Sante-Marie ar gymer dwy afon. Mae'n adnabyddus yn bennaf am ei heglwys hynafol, Eglwys y Santes Mair, cyn-eglwys gadeiriol Gatholig sy'n dyddio o'r 12fed ganrif. Ystyrir y dref yn 'brifddinas' rhanbarth Haut Béarn Poblogaeth: tua 12,000.

Am ei bod yn sefyll yn nhroedfryniau'r Pyreneau, mae'r dref yn ganolfan boblogaidd gan ymwelwyr. Enwir yr afon Gave d'Oloron ar ôl y dref.

Dolenni allanol[golygu]