Oblast Volgograd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Arfau Oblast Volgograd
Lleoliad Oblast Volgograd yn Rwsia.

Un o oblastau Rwsia yw Oblast Volgograd (Rwseg: Волгогра́дская о́бласть, Volgogradskaya oblast). Ei chanolfan weinyddol yw dinas Volgograd. Poblogaeth: 2,610,161 (Cyfrifiad 2010).

Lleolir yr oblast yn ardal weinyddol y Dosbarth Ffederal Deheuol. Mae'n ffinio gyda Oblast Saratov, Oblast Rostov, Oblast Astrakhan, Oblast Voronezh, a Gweriniaeth Kalmykia o fewn Rwsia, a gyda Kazakhstan. Mae'r afonydd yn cynnwys Afon Volga ac Afon Don.

Sefydlwyd Oblast Volgograd ar 23 Medi 1937, yn yr hen Undeb Sofietaidd.

Dolenni allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
Flag Russia template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Rwsia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.