Oblast Pskov

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Arfau Oblast Pskov.
Lleoliad Oblast Pskov yn Rwsia.

Un o oblastau Rwsia yw Oblast Pskov (Rwseg: Пско́вская о́бласть, Pskovskaya oblast). Ei chanolfan weinyddol yw dinas Pskov. Poblogaeth: 673,423 (Cyfrifiad 2010).

Lleolir yr oblast yn ardal weinyddol y Dosbarth Ffederal Gogledd-orllewinol. Mae Oblast Pskov yn ffinio gyda Oblast Leningrad yn y gogledd, Oblast Novgorod yn y dwyrain, Oblast Tver ac Oblast Smolensk yn y de-ddwyrain, gyda rhanbarth Vitebsk, Belarws, yn y de, a gyda Latfia ac Estonia yn y gorllewin. Yn y gogledd-orllewin, mae Oblast Pskov yn cynnwys rhan o Llyn Peipus, sydd am y ffin rhwng Rwsia ac Estonia.

Sefyflwyd Oblast Pskov ar 23 Awst 1944 ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd ar ôl i luoedd yr Undeb Sofietaidd gipio'r ardal o afael yr Almaen Natsïaidd.

Dolenni allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
Flag Russia template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Rwsia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.