Oblast Kursk

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Baner Oblast Kursk.
Lleoliad Oblast Kursk yn Rwsia.

Un o oblastau Rwsia yw Oblast Kursk (Rwseg: Ку́рская о́бласть, Kurskaya oblast). Ei chanolfan weinyddol yw dinas Kursk. Poblogaeth: 1,127,081 (Cyfrifiad 2010).

Lleolir yr oblast yn ardal weinyddol y Dosbarth Ffederal Canol. Fe'i sefydlwyd yn 1934 yn yr Undeb Sofietaidd.

Mae Oblast Kursk yn rhannu ffin gyda Oblast Bryansk i'r gogledd-orllewin, Oblast Oryol i'r gogledd, Oblast Lipetsk i'r gogledd-ddwyrain, Oblast Voronezh i'r dwyrain, ac Oblast Belgorod i'r de a'r ffin rhwng Rwsia a'r Wcrain. Llifa Afon Dnieper ac Afon Don drwy'r oblast.

Hanes[golygu]

Ymladdwyd un o frwydrau mawr yr Ail Ryfel Byd ar dir yr oblast, sef Brwydr Kursk (5 Gorffennaf i 23 Awst, 1943).

Gweler hefyd[golygu]

Dolenni allanol[golygu]


Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
Flag Russia template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Rwsia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.