Norbert Wiener

Oddi ar Wicipedia
Norbert Wiener
Ganwyd26 Tachwedd 1894 Edit this on Wikidata
Columbia, Missouri Edit this on Wikidata
Bu farw18 Mawrth 1964 Edit this on Wikidata
Stockholm Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
AddysgDoethur mewn Athrawiaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
ymgynghorydd y doethor
  • Josiah Royce
  • Karl Schmidt Edit this on Wikidata
Galwedigaethmathemategydd, hunangofiannydd, academydd, seicolegydd, gwyddonydd cyfrifiadurol, founder Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Aberdeen Proving Ground
  • Sefydliad Technoleg Massachusetts Edit this on Wikidata
Adnabyddus amabstract Wiener space, classical Wiener space, Paley–Wiener theorem, Wiener algebra, Wiener filter, God & Golem, Inc., Wiener equation, The Human Use of Human Beings Edit this on Wikidata
TadLeo Wiener Edit this on Wikidata
PriodMargaret Engemann Edit this on Wikidata
PerthnasauLeon Lichtenstein, Philip Franklin Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal Genedalethol Gwyddoniaeth, Cymrodoriaeth Guggenheim, Gwobr Cenedlaethol y Llyfr, Darlithoedd Josiah Willard Gibbs, Bôcher Memorial Prize, Honorary Doctorate from the National Autonomous University of Mexico Edit this on Wikidata
llofnod

Mathemategydd ac athronydd Americanaidd oedd Norbert Wiener (26 Tachwedd 189418 Mawrth 1964).

Ganwyd yn Columbia, Missouri, yn fab i athro ieithoedd a llenyddiaeth Slafonaidd ym Mhrifysgol Harvard. Graddiodd Norbert mewn mathemateg o Goleg Tufts yn 14 oed, a threuliodd blwyddyn yn astudio sŵoleg yn Harvard. Newidiodd ei radd i athroniaeth, ac enillodd ei ddoethuriaeth o Harvard yn 1913 gyda'i draethawd estynedig ar bwnc rhesymeg fathemategol. Astudiodd ym Mhrifysgol Caergrawnt dan Bertrand Russell ac ym Mhrifysgol Göttingen gyda David Hilbert.

Ni chafodd ei dderbyn i'r fyddin yn y Rhyfel Byd Cyntaf, am yr oedd ei olwg yn rhy wan. Treuliodd y rhyfel yn athro ym Mhrifysgol Maine, yn awdur gwyddoniadur, yn brentis peiriannydd, yn newyddiadurwr, ac yn fathemategydd ym Maes Arbrofi Aberdeen, Maryland. Yn 1919 ymunodd ag adran fathemateg Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT), a bu'n gweithio yno nes iddo ymddeol. Gweithiodd ar bynciau prosesau stocastig, mudiant Brownaidd, a dadansoddi harmonig cyffredin.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, fe weithiodd ar broblemau ynglŷn ag anelu arfau i saethu ar dargedau sy'n symud. Yn 1948, cyhoeddodd ei lyfr Cybernetics: or Control and Communication in the Animal and the Machine, gan arloesi maes seiberneteg. Bu farw yn Stockholm yn 69 oed.