Nishapur

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Beddrod y bardd Fariduddin Attar yn Nishapur

Mae Nishapur (neu Neyshâbûr; Perseg نیشابور) yn dref yn nhalaith Khorasan yng ngogledd-ddwyrain Iran.

Daearyddiaeth[golygu]

Lleolir Nishapur ar wastadedd ffrwythlon wrth droed Mynyddoedd Binalud, heb fod ymhell o'r brifddinas daleithiol Mashhad. Mae ganddi boblogaeth o tua 215,940 o bobl (2005).

Hanes[golygu]

Sefydlwyd Nishapur yng nghyfnod y Sassaniaid (O.C. 224 - 642)ma chafodd ei henwi ar ôl y brenin Shapur (O.C.255-271). Yn sgîl y goresgyniad Arabaidd daeth yn brifddinas talaith Khorasan ac erbyn y 10fed ganrif roedd yn ddinas o bwys mawr. Fel Rayy a Gurgan roedd yn ewnog am ei chrochenwaith. Yn 1037 fe'i dewiswyd gan y brenin Toghril Beg yn brifddinas Persia.

Cafodd y ddinas ei hysgwyd gan daeargryn yn 1145 a dioddefodd dan law y Tyrcomaniaid yn 1153. Cafodd ei hailadeiladu erbyn 1216 ond byr fu ei hysbaid o dawelwch oherwydd hi oedd y ddinas gyntaf yn y wlad i gael ei difetha gan y Mongoliaid yn 1221 ar ddechrau eu cyrch brawychus trwy'r Dwyrain Canol. Er gwaethaf hyn ac ail dddaeargryn yn 1281 roedd hi'n ddinas lewyrchus unwaith eto erbyn y 14eg ganrif. Ond yn ystod y canrifoedd nesaf collodd dir i Mashad a dioddefodd ymosodiad dinistriol gan yr Affganiaid yn 1722; ar ôl hynny fe'i disodlwyd gan Mashad fel prifddinas Khorasan.

Diwylliant[golygu]

Ganwyd Omar Khayyam yn Nishapur y 18 Mai, 1048; bu farw yno yn 1123 ac mae ei fedd i'w weld yng ngerddi cygegrfan Muhamed Mahruq. Roedd y ddinas yn gartref i'r bardd Fariduddin Attar yn ogystal; fe'i lladdwyd yno yn ystod ymosodiad y Mongoliaid ac mae ei feddrod i'w chael yn agos i feddrod Omar Khayyam.

Economi[golygu]

Mae economi ardal Nishapur yn seiliedig ar amaethyddiaeth, grawn a chotwn yn bennaf. Cloddir y maen glas gwerthfawr turquoise yn y bryniau ger llaw. Mae'r ddinas ei hun yn gartref i ddiwydiant, yr ail o ran ei phwysigrwydd economaidd yn y dalith, ac yn un o'r dinasoedd mwyaf weddol ffynnianus yn Iran.