Nigel Mansell
| Nigel Mansell | |
|---|---|
| Mansell yn 1991 | |
| Cenedligrwydd |
|
| Gyrfa Pencampwriaeth y Byd Fformiwla Un | |
| Blynyddoedd yn cystadlu | 1980 - 1992, 1994 – 1995 |
| Timau | Lotus, Williams, Ferrari, McLaren |
| Rasys | 191 (187 dechreuad) |
| Pencampwriaethau | 1 |
| Buddugoliaethau | 31 |
| Podiwm | 59 |
| Pwyntiau | 480 (482) |
| Dechrau o'r blaen | 32 |
| Lapiau cyflymaf | 30 |
| Ras gyntaf | Grand Prix Awstria 1980 |
| Ras olaf | Grand Prix Sbaen 1995 |
Cyn-yrrwr Fformiwla Un o Loegr yw Nigel Ernest James Mansell OBE (8 Awst, 1953 – ). Enillodd Mansell Pencampwriaeth y Byd Fformiwla Un yn 1992 a Chyfres y Byd CART yn 1993. Fe yw'r unig berson i dal y ddau deitl ar yr un pryd, a hefyd y gyrrwr cyntaf i ennill Cyfres y Byd CART yn ei thymor cyntaf.
Fe barhaodd ei gyrfa yn Fformiwla Un 15 tymor, ac wedyn cystadlu yn y gyfres CART ar gyfer ei dau dymor olaf yn cystadlu ar y lefel uchaf. Heddiw, mae Mansell yn dal y gyrrwr Fformiwla Un mwyaf llwyddiannus i ddod o Brydain wrth ystyried nifer o fuddugoliaethau (31), ac yn pedwerydd allan of pob gyrwyr erioed.
Fe gymerodd Mansell rhan yn gyfres GP Masters, gan ennill dau allan o'r tair ras a gynhelir. Yn 2005, fe gafodd ei cynnwys yn yr International Motorsports Hall of Fame.