Nia Ben Aur

Oddi ar Wicipedia

Sioe gerdd yn seiliedig ar yr hen chwedl Wyddelig am y tywysog Osian a Nia Ben Aur, y ferch o Dir na n-Og, yw Nia Ben Aur.

Fe'i cynhyrchwyd i'w pherfformio yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin ym 1974. Cyfansoddwyd y caneuon gan lawer o sêr y Sîn Roc Gymraeg ar y pryd a pherfformiwyd y sioe ar lwyfan gan aelodau rhai o grwpiau mwya'r cyfnod gan gynnwys Edward H. Dafis, Hergest, Ac Eraill a Sidan.

Yn 2003, fe gynhyrchodd Theatr na n'Óg fersiwn newydd o'r sioe gerdd, yn defnyddio caneuon o'r sioe wreiddiol ond gyda sgript newydd gan Siôn Eirian.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.