New Kids on the Block

Oddi ar Wicipedia
New Kids on the Block ym mis Tachwedd 2007

Mae New Kids on the Block (sy'n cael eu hadnabod hefyd fel NKOTB) yn grŵp pop Americanaidd a gafodd llwyddiant mawr ar ddiwedd y 1980au a dechrau'r 1990au ac a werthodd 80 miliwn o albymau yn fyd eang. Cawsant eu rheoli gan Dick Scott a Kim Glover. Ffurfiwyd y band ym Moston ym 1984 gan y cynhyrchydd Maurice Star. Aelodau'r band yw'r ddau frawd Jordan a Jonathan Knight, Joey McIntyre, Donnie Wahlberg, a Danny Wood. Gwahanodd y band ym 1994 ond gwnaed nifer o ymdrechion aflwyddiannus i ail-uno'r band. Fodd bynnag, ail-grëwyd y band yn 2007 gyda delwedd newydd. Rhyddhawyd albwm newydd ac aethant ar daith gyngherddol. Rhyddhawyd yr albwm, o'r enw "The Block" ar yr 2il o Fedi, 2008.

Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.