Nat King Cole

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Nat King Cole, 1946

Canwr a phianydd Americanaidd oedd Nathaniel Adams Coles, neu Nat "King" Cole (17 Mawrth, 191915 Chwefror, 1965).

Cafodd ei eni ym Montgomery, Alabama yn fab i weinidog a'i fam yn canu'r organ yn yr eglwys. Does dim rhyfedd, felly, mai'r organ oedd offeryn cyntaf Cole. Er mai fel canwr jazz y cofiwn i ef, gallai droi ei law at bob math o gerddoriaeth: o gerddoriaeth gospel i Johann Sebastian Bach yn ddigon hawdd.

Yn Bronzeville (rhan o Chicago) y trigai'r teulu. Yn aml, llithrai Nat allan o'r tŷ yn ddiarwybod i'w rieni er mwyn stelcian y tu allan i'r clybiau nos - er mwyn gwrando ar gewri megis Louis Armstrong, Earl "Fatha" Hines, a Jimmie Noone. Cymerodd ran yn renowned rhaglen gerdd DuSable High School (Walter Dyett).

Yng nghanol yr 1930'au, cychwynodd fand a defnyddiodd yr enw "Nat Cole" arno ef ei hun. Ymunodd ei frawd mawr Eddie a'r grwp ar y bâs, gan dorri eu record gyntaf yn 1936. Cafodd yr enw "King" mewn un clwb oherwydd y gerdd Saesneg "Old King Cole". Pan oedd ar daith fel pianydd ragtime i "Shuffle Along", aeth y cwmni i'r wal yn Long Beach, California, a phenderfynodd Cole aros yno.

Baner United StatesEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.