Número

Oddi ar Wicipedia
Número
Enghraifft o'r canlynolcyfnodolyn, cyhoeddwr Edit this on Wikidata
GwladWrwgwái Edit this on Wikidata
GwladwriaethWrwgwái Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Clawr y pumed rhifyn o Número (Tachwedd–Rhagfyr 1949).

Cylchgrawn llenyddol Sbaeneg a gyhoeddwyd yn Wrwgwái yn y cyfnodau 1949–55 a 1963–64 oedd Número. Cysylltir â La Generación del 45, y genhedlaeth a flodeuai yn llên Wrwgwái yng nghanol yr 20g. Roedd y cylchgrawn yn nodedig am ei fydolwg cosmopolitanaidd a'i ymdriniaeth â syniadau a mudiadau celf cyfoes.[1]

Sefydlwyd Número gan Emir Rodríguez Monegal, Idea Vilariño, a Manuel Claps, ac yn ddiweddarach ymunodd Mario Benedetti â'r fenter. Cyhoeddwyd cyfieithiadau o waith T. S. Eliot, Harold Pinter, a Raymond Queneau yn y cylchgrawn, yn ogystal ag ysgrifeniadau gwreiddiol gan Jorge Luis Borges, Manuel Rojas, Ernesto Sabato, Alfonso Reyes, ac Adolfo Bioy Casares.[1]

Dan olygyddiaeth Carlos Martínez Moreno, canolbwyntiodd ail gyfres Número yn y 1960au ar lên a diwylliant deallusol American Ladin. Ymddiswyddodd Vilariño o'r cylchgrawn oherwydd safbwynt anwleidyddol y golygyddion. Ymddiswyddodd rhagor o aelodau'r bwrdd golygyddol wedi i Rodríguez Monegal ddatgan ei wrthwynebiad i Chwyldro Ciwba, a gwrthodasant y cynnig gan grŵp gwrth-gomiwnyddol y Congress for Cultural Freedom i gymryd y busnes drosodd.[1]

Cyfarfod y cylchgrawn Número yng nghartref Emir Rodríguez Monegal. O'r chwith i'r dde, yn sefyll: Rodríguez Monegal, Zoraida Mébot, Manuel Claps, Idea Vilariño, Luz López, Baíta Sureda; yn eistedd: Sarandy Cabrera a Mario Benedetti.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Norah Giraldi Dei Cas, "Número" yn Encyclopedia of Latin American and Caribbean Literature 1900–2003, golygwyd gan Daniel Balderston a Mike Gonzalez (Llundain; Routledge, 2004), t. 391.