Mynyddoedd Sacramento
Oddi ar Wicipedia
- Gweler hefyd Mynyddoedd Sacramento (California).
Cadwyn o fynyddoedd yn ne canolbarth New Mexico, UDA, yw Mynyddoedd Sacramento (Saesneg: Sacramento Mountains). Gorweddant i'r dwyrain o Alamogordo yn Swydd Otero. Mae'r mynyddoedd yn ymestyn am 85 milltir (137 km) o'r gogledd i'r de, a 42 milltir (68 km) o'r dwyrain i'r gorllewin. Copa Cathey (9,645 troedfedd / 2,940 m) yw'r mynydd uchaf.
Mae llethrau dwyreiniol y gadwyn yn gorwedd ar dir yr Apache Mescalero. Y cadwynau cyfagos yw Mynyddoedd Guadalupe, y Sierra Blanca, sy'n sanctaidd i'r Mescalero, a'r Mynyddoedd Capitan.