Mescalero

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Erthygl am y llwyth Apache yw hon. Gweler hefyd Mescalero (gwahaniaethu).

Llwyth brodorol sy'n perthyn i'r bobl Apache ac sy'n byw ar hyn o bryd mewn reservation yn ne New Mexico, UDA, yw'r Mescalero (neu Apache Mescalero). Fel yr Apache eraill, bu gan y Mescalero ran yn y Rhyfeloedd Apache yn erbyn yr Unol Daleithiau yn ail hanner y 19eg ganrif. Ar droad yr 20fed ganrif croesawodd eu cyd-Apache Chiricahua ar eu tir pan gawsant eu rhyddhau o'u carchar rhyfel yn Fort Sill, Oklahoma, a'r Apache Lipan hefyd. Ar y cyfan pobl dawel heb fod o natur ryfelgar oedd y Mescalero yn y 19eg ganrif, ond dioddefasant sawl cyflafan gan fyddin yr Unol Daleithiau ac ymladdodd rhai aelodau o'r llwyth ochr yn ochr â'r pennaeth Victorio.

Tipis Mescalero (diwedd y 19eg ganrif)

Sefydlwyd reservation y Mescalero yn ne canolbarth Mecsico Newydd ar 27 Mai, 1873 ar orchymyn yr Arlywydd Ulysses S. Grant, ger Fort Stanton. Sefydlwyd y reservation presennol yn 1883. Mae'n cynnwys 1,862.463 km² (719.101 milltir sgwar) o dir, bron i gyd yn Swydd Otero. Mae 3,156 o Fescalero yn byw yno (Cyfrifiad 2000).

Ransio a thwristiaeth yw'r prif ffynonellau incwm. Gorwedd y reservation ar lethrau dwyreiniol Mynyddoedd Sacramento. Gorchuddir y bryniau a mynyddoedd â phinwydd ac mae datblygiadau yn cael eu cyfyngu er mwyn gwarchod yr amgylchedd. Ond ceir gwersyll sgio 'Ski Apache' ar fynydd 12,000 troedfedd y Sierra Blanca gyda gwesty gerllaw.

Mae'r Sierra Blanca yn dir sanctaidd i'r Mescalero a'r Apache, fel y mae canolfan wybodaeth yn nhref fechan Mescalero yn esbonio. Mynyddoedd sanctaidd eraill yw Mynyddoedd Sacramento, hefyd yn New Mecsico

Llywodraethir y llwyth gan Gyngor Llwythol. Etholir Arlywydd bob pedair mlynedd. Carleton Naiche-Palmer yw'r arlywyddd presennol, ers Ionawr 2008.

Iaith[golygu]

Mae'r iaith Mescalero yn iaith De Abascaidd, sy'n is-deulu o'r ieithoedd Athabasgaidd a Na-Dené. Mae Mescalero yn perthyn i gangen de-orllewinol yr is-deulu hwn ac yn perthyn yn agos i iaith y Chiricahua ac, i raddau llai, i'r iaith Navajo ac iaith yr Apache Gorllewinol.

Gweler hefyd[golygu]

Dolenni allanol[golygu]