Mynyddoedd Cantabria

Oddi ar Wicipedia
Mynyddoedd Cantabria
Golwg ar Fynyddoedd Cantabria, yn gyfochrog â Môr Cantabria, fel y gwelir o gopa Castro Valnera. Yn y cefndir, gwelir Parc Cenedlaethol Montaña Palentina ar y chwith a Picos de Europa ar y dde.
Mathmynyddoedd nad ydynt yn gysylltiedig, yn ddaearegol, cadwyn o fynyddoedd Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlMôr Cantabria Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCantabria, Asturias, Galisia, Castilla y León, Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg Edit this on Wikidata
GwladBaner Sbaen Sbaen
Uwch y môr2,648 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaMeseta Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau43.1975°N 4.8517°W Edit this on Wikidata
Hyd480 cilometr Edit this on Wikidata
Map
Deunyddcalchfaen Edit this on Wikidata

Cadwyn o fynyddoedd yng ngogledd Sbaen yw Mynyddoedd Cantabria (Sbaeneg: Cordillera Cantábrica, Astwrieg: Cordelera Cantábrica, Galisieg: Cordal Cantábrico) sydd yn ymestyn ar hyd yr arfordir â Môr Cantabria am ryw 300 km, o Fasiff Galisia yn y gorllewin a thrwy daleithiau Asturias a León, Cantabria, Palencia a Burgos, hyd at y Pyreneau yng Ngwlad y Basg yn y dwyrain. Copa ucha'r gadwyn yw Torre Cerredo (2,650 m), a leolir yn grŵp Picos de Europa yng nghanolbarth Mynyddoedd Cantabria.

Saif y mynyddoedd mewn rhanbarth coediog, yn llawn ffawydd a phinwydd arfor, a chyfoethog yn nhermau'i adnoddau naturiol, gan gynnwys glo a haearn. Cynhyrchir trydan dŵr o'r nentydd ar lethrau gogleddol y mynyddoedd ar gyfer trefi'r arfordir, a defnyddir yr afonydd hirach yn y de i ddyfrhau ffermydd. Prif sector amaethyddol yr ardal yw ffermio gwartheg. Mae'r rheilffordd o Oviedo i León yn croesi Mynyddoedd Cantabria drwy Fwlch Pajares ar uchder o 1,379 m.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Cantabrian Mountains. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Tachwedd 2021.