Mynydd McKinley

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Mynydd McKinley
Mynyddoedd Alaska
Mynydd McKinley neu Denali
Llun Mynydd McKinley neu Denali
Uchder 6,194 m
Lleoliad {{{lleoliad}}}
Gwlad Unol Daleithiau


Mynydd McKinley (Saesneg: Mount McKinley), hefyd Denali, yw copa uchaf yr Unol Daleithiau a chopa uchaf Gogledd America. Saif yn Alaska. Ceir tywydd anarferol o oer ar y mynydd, ac mae pum rhewlif sylweddol ar ei lethrau. Sefydlwyd Parc Cenedlaethol Denali o amgylch y mynydd yn 1980.

Hawliodd y fforiwr Frederick Cook ei fod wedi dringo'r mynydd yn 1906, ond profwyd yn ddiweddarach nad oedd wedi cyrraedd y copa. Yn 1910, dringwyd y mynydd gan bedwar o ddynion lleol, Tom Lloyd, Peter Anderson, Billy Taylor a Charles McGonagall. Cyhaeddasant y Copa Gogleddol, yr isaf o ddau gopa'r mynydd. Cyrhaeddwyd y copa uchaf yn 1913 gan Walter Harper.