Mousa

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Mousa Broch

Ynys fechan yn ynysoedd Shetland yng ngogledd yr Alban yw Mousa (Hen Lychlynneg: Mosey "ynys fwsoglyd"). Saif tua milltir i'r dwyrain o ynys Mainland. Nid oes poblogaeth arni bellach.

Mae'r ynys yn adnabyddus am ei broch, Broch Mousa, a ystyrir yn esiampl orau o froch yn yr Alban. Synodwyd Mousa yn Ardal Warchodaeth Arbennig oherwydd ei phwysigrwydd fel man nythu i'r Pedryn Drycin, gyda tua 6,800 o barau yn nythu yma.